Amdanom

Wrth i chi ddod drwy drws Llyfrau Ystwyth fe welwch restr o bynciau a pha lawr i ymweld.

Bydd staff yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i eitemau neu i ddangos rannau o’r siop i bori.

Mae gan yr ystafell fwy ar y llawr gwaelod gopïau newydd o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Mae gan weddill y siop ddetholiad ail law o lawer o bynciau ynghyd â llenyddiaeth Gymraeg, ac mae 2 ystafell o lyfrau Cymraeg yn y storfa ar y llawr uchaf – gofynnwch i bori drwy’r rhain. Mae testunau Gwyddeleg, Llydaweg a Chernyweg ar gael hefyd.

Mae ffuglen clawr meddal cyffredinol ar y grisiau.

Arbenigedd penodol Llyfrau Ystwyth yw Hanes Natur, yr Amgylchedd a rhai Gwyddorau Daear ar gael mewn ystafell yng nghefn y siop.

Mae’r siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4yp ond ar gau ar ddydd Sul.

Rydym hefyd ar-lein ar www.abebooks.com neu www.biblio.com dan Lyfrau Ystwyth Books.

Gallwch hefyd gefnogi drwy siopa ar Hive.co.uk a dewis Llyfrau Ystwyth wrth y ddesg dalu.